AC does neb wedi clywed amdano’n galw ei hun yn “amherthnasol”

mike

Pwy ff*c ‘di hwn pan mae o adra? 

Mae Aelod Cynulliad Llafur nad does neb erioed wedi clywed amdano wedi galw ei hun yn “amherthnasol i fywydau” pledleisiwyr.

Dywedodd Mike Hedges bod Llafur wedi colli seddi i UKIP yn etholiad y Cynulliad gan nad yw’r blaid yn cyfathrebu nac yn gwneud eu hunain yn amlwg i’r pleidleiswyr.

Meddai Mark Hodges: “Mae pawb wedi clywed am Neil Hamilton, Nathan Gill a Mark Reckless. Does neb wedi clywed amdana i.

Ychwanegodd yr AC dros Ddwyrain Abertawe: “Sut a pham mae hyn wedi digwydd? A pwy ydw i eto?”

Mae Llafur Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dweud nad oes ganddyn nhw syniad pwy yw Mork Hidges.

Sponsored Post Learn from the experts: Create a successful blog with our brand new courseThe WordPress.com Blog

WordPress.com is excited to announce our newest offering: a course just for beginning bloggers where you’ll learn everything you need to know about blogging from the most trusted experts in the industry. We have helped millions of blogs get up and running, we know what works, and we want you to to know everything we know. This course provides all the fundamental skills and inspiration you need to get your blog started, an interactive community forum, and content updated annually.

Naw ysgrifennydd Cymru’n ffurfio supergroup

Alun Cairns

Mae’r hanner penbwl, hanner dyn ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi ymuno ag wyth o’i ragflaenwyr i ffurfio supergroup newydd.

Mae’r naw gwleidydd, Llafur a Cheidwadwyr, wedi rhyddhau datganiad heddiw’n cyhoeddi mai enw’r grwp fydd Pennau Piws gan mai dyna’r lliw mae rhywun yn ei gael drwy gymysgu coch a glas.

Meddai’r y ddatgaiad eu bod nhw wedi penderfynu ffurfio’r supergroup yn dilyn llwyddiant grwpiau tebyg fel McBusted ac Endaf Gremlin.

Mae’r band wedi disgrifio eu sŵn fel “eclectic sy’n ymylu ar rumba disco”.

Meddai Alun Cairns: “Mae cael bod yn Ben Piws yn fraint ac yn anrhydedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael rhannu’r llwyfan gyda’r Piws Bennau eraill a dangos i bobl beth mae Pennau Piws yn gallu gwneud.”

Yn ogystal ag Alun Cairns, mae Steven Crabb, yr Arglwydd Crickhowell, Arglwydd Hunt a’r Arglwydd Hague yn aelodau Ceidwadol o’r band, tra bod yr Arglwydd Hain, Arglwydd Murphy, Alun Michael ac arch loetrwr Clapham Common, Ron Davies, yn aelodau Llafur.

Bydd gig cyntaf y band yn cael ei gynnal nos Wener ar lwyfan y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni – slot sydd fel rheol yn cael ei gadw i fandiau sydd wedi hen weld dyddiau gwell.

 

Tywydd Cymru’n cyrraedd Ffrainc

il pleut

Wythnos yn unig cyn noson agoriadol prifwyl pêl-droed Ewro 2016 yn Ffrainc, mae’r wlad wedi cael ei tharo gan lifogydd difrifol wedi i dywydd Cymru gyrraedd y wlad yn gynnar i gefnogi’r tîm cenedlaethol.

Mae amgueddfa fyd-enwog y Louvre wedi cau ei drysau heddiw i ddiogelu gwaith celf rhag y dŵr a dywedodd Gweinyddiaeth Amgylchedd y wlad fod yr afon Seine ar ei lefel uchaf ers 1982 yn sgil glaw di-baid sy’n disgyn fel petai’n fis Tachwedd digysur yng Nghymru.

‘Chwalu hi trw’ Ffrainc’ 

Meddai Ifan y Glaw o Blaenau Ffestiniog sydd wedi teithio i Ffrainc gyda Morus y Gwynt o Capel Curig: “Da ni yma i mega syportio’r ogia dydan, so ella bo ni di egseitio ‘chydig bach gormod a pîcio braidd yn gynnar.

“Ond ma hwn yn drip unwaith mewn cenhedlaeth t’bo, so’n amlwg da ni am chwalu hi trw’ Ffrainc. Dim bai ni ‘dio bo’r pansans, sori, Parisians, heb arfar hefo tywydd fel ni, na?”

Merde

Ymhlith y mannau eraill a gafodd eu taro gan y llifogydd roedd Dyffryn y Loire yng nghanolbarth Ffrainc ac mae’r Prif Weinidog Manuel Valls wedi dweud y bydd gorchymyn o argyfwng naturiol yn cael ei gyhoeddi, gan ebychu: “Merde.”

Ychwanegodd Ifan y Glaw: “Os dy nhw’n cyhoeddi gorchymyn argyfwng naturiol hefo jyst ni’n dau yma, dychmyga panicio fyddan nhw pan fydd y force of nature Dewi Prysor yn troi fyny.”

Meddai’r merchetwr annisgwyl, yr Arlywydd Francois Hollande: “Je déteste il pleut. Je déteste Pays de Galles. J’aime les femmes.”

Dafydd Elis-Thomas yn annog Cymry i gefnogi Lloegr yn Ewro 2016

 

daf neil

Mae’r meddyliwr mawr, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi annog Cymru i gefnogi Wayne Rooney a thîm Lloegr ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.

Mae Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ers y tro cyntaf ers oes pys, ond mae Dafydd Ȇl o’r farn y dylid cefnogi’n dactegol yn y twrnamaint.

Twrnamaint ‘hollbwysig’ i’r Sais

Mewn datganiad a ryddhawyd gan yr arch boen-yn-tîn o fewn awr i neges trydar gan Leanne Wood oedd yn dymuno pob lwc i dîm Cymru yn y bencampwriaeth, meddai: “Mae’r Saeson wedi cael amser caled iawn ers 1966 ac yn haeddu ein cefnogaeth. Dw i’n cofio 1966 yn iawn – ro’n i’n cynllwynio yn erbyn Gwynfor Evans ar y pryd.

“Credaf fod angen i gefnogwyr Cymru feddwl yn dactegol. Dim ond un chwaraewr sydd gan Gymru mewn gwirionedd ond mae gan Loegr dîm cytbwys a chryf. Dyna dwi ‘di glywed gan fy hen gyfaill Neil Hamilton, a ‘dio byth yn dweud celwydd.”

Plesio Saeson

Daw cyhoeddiad yr Arglwydd Elis-Thomas yn dilyn arolwg sy’n dangos bod nifer y bobl sy’n talu sylw iddo wedi cwympo i’r lefel isaf ers 1972.

Ychwanegodd Yr Arglwydd: “Mae’n hollbwysig nad yw’r Sais yn teimlo ein bod yn eu herbyn. God save the Queen old bean. Jolly good. Pip pip.”

Meddai Ian Botham, cricedwr gwladgarol y Sais a chocddangoswr o fri: “I’m sure Wales is a type of fish.”

Beth nesa i Rhodri Glyn Thomas?

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn sefyll yn etholiadau’r cynulliad yn 2016.

Ond beth fydd nesa i’r dyn wnaeth smocio sigar tu mewn i dafarn a gwneud ffwl go iawn o’i hun yn un o seremoniau llenyddol mwya’r flwyddyn?

Mae Llygad Ddu wedi rhoi ei het athro gyrfaoedd ymlaen a mynd ati i amlinellu swyddi bydd y cyn-aelod cynulliad yn berffaith ar eu cyfer wedi iddo adael y cynulliad.

  •  Roliwr Sigar Personnol i Jay-Z

Delwedd

Mae pawb yn gwybod bod Rhodri Glyn Thomas yn hoffi sigars bron cymaint a Bill Clinton. Mae Jay-Z hefyd yn hoffi sigars ac yn chwilio am rowliwr sigars personnol i fynd ar daith gydag o. Partneriaeth berffaith.

  • Darllen y Tywydd

Delwedd

Mae pawb yn cofio camgymeriad mawr Michael Fish yn 1987 pan wnaeth o fethu darogan un o’r stormydd gwaethaf welodd de ddwyrain Lloegr erioed. Dychmygwch petai Rhodri Glyn yn darllen y tywydd. Disaster.

  • Perchenog Tafarn Leol

Delwedd

Yn ystod ei yrfa wleidyddol mae Rhodri Glyn Thomas wedi cael ei ddisgrifio sawl gwaith yn y cyfryngau fel cymeriad “lliwgar”. Gwnewch o hynny be fynnwch chi ond pwy arall fyddech chi eisiau i reoli eich tafarn leol lle mae pawb yn eich adnabod?

  • Arweinydd Cwlt Crefyddol

Delwedd

Mae ganddo radd mewn diwinyddiaeth ac wedi gwneud cwrs ôl radd yn y pwnc hefyd. Gyda’r holl wybodaeth sydd ganddo, yn ogystal â’r blynyddoedd o falu cachu gwleidydol, mi fyddai’n hawdd iddo greu, recriwtio ac arwain ei gwlt ei hun o dan fferm wynt yn Sir Gaerfyddin.

  • Ymddeol

Delwedd

Neu, efallai nad yw Rhodri Glyn yn bwriadu gweithio byth eto. Wedi’r cwbl, mae o’n 59 mlwydd oed rwan ac erbyn iddo ymddeol yn 2016 mi fydd o wedi treulio 15 mlynedd yn AC ar gyflog o £50,000.

Beth bynnag fydd ei benderfyniad, mae Llygad Ddu yn dymuno pob lwc iddo fo!

A rwan, eich cynigion chi, y werin datws a ballu, am swyddi i Rhodri Glyn Thomas:

  • Dechrau a Golygu Papur Newydd Dyddiol Cymraeg

newsroom97

Wedi i’w ddatganiad yn 2008 am gyllid i bapurau newydd Cymraeg roi’r gorau i ddyheuiadau Y Byd am bapur newydd dyddiol Cymraeg, efallai mai dyma oedd ei gynllun o’r dechrau?

Arweinydd Cyngor Gwynedd eisiau un cyngor yng Nghymru

Delwedd

Bydd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, yn amlinellu ei gynlluniau i gael un cyngor dros Gymru wythnos yma.

Bydd yn gwneud ei ddatganiad wrth groesawu Leighton Andrews i Wynedd ar gyfer cynhadledd ar ddyfodol cymunedau Cymraeg

Ond mae disgwyl i Arweinydd Cyngor Gwynedd ehangu ar ei sylwadau y dylai bod dau gyngor yn hytrach na chwech yng ngogledd Cymru.

 “Dwi wedi bod yn meddwl,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards wrth Llygad Ddu o’i orsedd yng Ngwynedd.

Gwynedd yw’r gorau
“Fel sir sydd â’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, yn amlwg, Gwynedd yw’r gorau.

“Mae Gwynedd yn ymfalchïo yn ei rôl allweddol i arwain, trafod ac arloesi mewn perthynas â chynllunio ieithyddol, addysg, iechyd a throsedd ar lefel sirol a chenedlaethol a dyma pam mod i’n cynnig mai un cyngor sydd ei angen dros Gymru – Cyngor Gwynedd.”

Mae Jacob Williams yn byw yn Rhydyclafdy yng Ngwynedd ac mae o’r farn bod un Cyngor Gwynedd dros Gymru yn syniad arbennig.

“Y mowthwelians ‘ma de – da chi’m yn dallt gair ma nhw’n ddeud nadach. Os fysa pawb yn siarad fel ni ym Mhen Llŷn, fydda na’m north a sowth. Dim ond Gwynedd. A peidiwch gadal i mi ddechra ar y Saeson de. Blydi Saeson ddiawl.”

Ychwanegodd Dyfed Edwards: “Rwy’n gobeithio y bydd y gynhadledd genedlaethol hon yn dechrau trafodaeth aeddfed a fydd yn gymorth i sicrhau dyfodol disglair i Gyngor Gwynedd fel unig Gyngor Sir Cymru. Fydd hi fel bod 1282 heb ddigwydd o gwbl.”

Mae cynigion Dyfed Edwards am un sir dros Gymru yn cynnwys:

  • Newid enw Cyngor Sir Gwynedd i Tywysogaeth Gwynedd.
  • Newid teitl Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd i Tywysog Gwynedd.
  • Cau pob ysgol yn Nhywysogaeth Gwynedd.
  • Gwneud plaid wleidyddol Llais Gwynedd yn anghyfreithlon.
  • Gwneud Dafydd Iwan yn nawddsant newydd Tywysogaeth Gwynedd.
  • Cicio’r Saeson allan o Dywysogaeth Gwynedd.
  • Cyflwyno’r ‘English Not’ ym mhob gweithle.
  • Ail-adeiladu Clawdd Offa gyda’r arian fydd yn cael ei arbed wrth gau pob ysgol.
  • Gwneud Tywysogaeth Gwynedd yn sefydliad unbenaethol – gyda llinach brenhinol sy’n dechrau gyda Dyfed Edwards – yn hytrach na sefydliad democrataidd.
  • Gwersi ynganu i bob Cymro fel eu bod nhw’n siarad gydag un o acenion Gwynedd.

Rhybuddion bod Rhys Mwyn yn “siarad trwy ei het”

Delwedd

Mae hi wedi dod i’r amlwg bod y cerddor ac archeolegydd, Rhys Mwyn, yn “siarad trwy ei het.”

Daw’r rhybydd ar ôl i Rhys Mwyn alw dau o ddigwyddiadau cerddorol Cymru yn “ffars”, cyn iddyn nhw ddigwydd.

Rhoddodd Rhys Mwyn ei sylwadau mewn erthygl yn Yr Herald Cymraeg oedd wedi cael ei sgwennu cyn i gystadleuaeth Cân i Gymru a noson Gwobrau’r Selar gael eu cynnal dros y penwythnos.

Beth sydd wedi digwydd?
Dywedodd Marjorie Owen, 85, o Lanllyfni sy’n darllen Yr Herald Cymraeg yn rheolaidd: “Dwi ddim yn dallt. Mae Rhys fel arfer yn cyflwyno dadleuon clir, rhesymegol a chall iawn. Roedd ei ddarn o yn Yr Herald pan oedd o’n esbonio ei fod o’n teimlo fel cymeriad yn un o ganeuon Datblygu, ‘Y Comiwnydd Olaf yn Ewrop’, yn wych.

“Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo fo – mae o fel ei fod o’n trio cael ymateb gan bobl.”

Ond mae eraill wedi awgrymu bod sylwadau Rhys Mwyn wedi bod llithro tuag at yr hurt ers rhai blynyddoedd.

“Os fydda Rhys Mwyn yn gwisgo het,” meddai Jamie Jones sy’n darlithydd cymdeithaseg yng Ngholeg Iâl, Wrecsam, “mi fydda fo wedi bod yn siarad drwyddi ers blynyddoedd. A dim het normal chwaith, ond un mawr Guinness fel mae pobl yn ei gwisgo ar ddiwrnod Sant Padrig.”

Plygain rocs
Dywedodd Rhys Mwyn: “Pan o’n i’n teithio Ewrop yn canu plygain gyda’r Anhrefn, reodden ni’n real, ti’n gwybod? Oedden ni’n mynd i lefydd fel Shotton a Thredegar i chwarae mewn clybiau gwag a gwneud colled ariannol ar yr un pryd. Ond ble mae’r Anhrefn newydd? Ble mae’r plygain-roc diweddaraf?”

“Mae anarchiaeth comiwnyddol yn fyw yn Rhys Mwyn. Mae Rhys Mwyn yn fyw. Bwwwww i’r Frenhines. Lawr â’r sefydliad. Archeoleg rocs. Rhys Mwyn rocs.” ychwanegodd.

Achub Tafwyl: Rhyddhad i Gaerdydd

Delwedd

Roedd sŵn aflafar yng Nghaerdydd ddoe wrth i 346,100 o drigolion y brifddinas ochneidio anadl o ryddhad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddan nhw’n llenwi’r bwlch ariannol i ŵyl undydd Tafwyl.

Dydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw am dorri eu nawdd nhw i’r ŵyl o 100%, neu £20,000, oherwydd yr arbedion sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.

Roedd hi fel petai bod cwmwl mawr wedi codi dros Caerdydd y bore ma wrth i bobl fynd ymlaen a’u bywydau.

Gŵyl bwysig
Dywedodd Marian Wilias, sy’n athrawes yn ysgol gynradd Gymraeg Coed Dydd, ei bod hi wrth ei bodd â’r penderfyniad.

“Roedd y peth yn warthus siŵr. Roedd y teulu i gyd wedi mwynhau eu hunain gymaint llynedd. Roedd mam a dad wedi dod lawr o Sir Fôn yn arbennig i weld Rapsgaliwn. Pa ŵyl Gymraeg arall sydd yna i bobl Cymraeg Caerdydd? Dim. Dyna faint.”

“A pha gyfle arall sydd yna i’r plant ‘cw, Gwyndaf Haf a Ceri Mai, i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas a thu hwnt, arwahan i’r Eisteddfod?

“Mae un diwrnod Tafwyl yn ddigwyddiad mor bwysig a dyna’r unig dro mewn blwyddyn dwi’n cael cyfle i weld a chymdiethasu hefo fy nghyfoedion fel petai hi’n Steddfod Bala ‘97 unwaith eto – arwahan i’r Eisteddfod wrth gwrs.”

Blaenoriaethu
A gyda thoriadau eraill y cyngor yn golygu stopio cymorthdaliadau cerddoriaeth yn yr ysgol – wnaeth helpu 2,800 o blant i ddysgu offerynnau cerddorol llynedd  – yn ogystal â chau phwll nofio Splott, sydd mewn ardal difreintiedig, mae Marian yn falch bod y Llywodraeth wedi cael eu blaenoriaethau yn iawn.

“Diolch byth eu bod nhw wedi gwneud hyn. Mae Tafwyl yn gwneud mwy i hybu’r iaith Gymraeg yn y ddinas mewn un diwrnod na’r un digwyddiad arall erioed – arwahan i Esiteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Yr un diwrnod mewn blwyddyn lle mae gennym ni gyfle i godi proffil iath y nefoedd. Bydded i Tafwyl barhau!”

Dywedodd Kyle Smith sy’n byw yn ardal Trelai yn y ddinas: “A Welsh festival in the Castle? Never ‘eard of it. What’s the point of that then?”

Ffermwyr Ifanc wedi gwisgo fel merchaid i fod yn Esgobion

Delwedd

Ar ôl i Synod Cyffredinol Yr Eglwys yn Lloegr bledleisio yn erbyn y syniad o gael esgobion benywaidd ddoe, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi datgan ei bod nhw wedi dod i gyfaddawd gyda’u haelodau nhw.

Er na fydd merched yn cael bod yn Esgobion yng Nghymru chwaith, mae’r Eglwys wedi bod mewn trafodaethau gyda grwpiau Ffermwyr Ifanc y wlad i gael aelodau gwrywaidd o’r mudiad sydd wrth eu boddau yn gwisgo fel merched i fod yn Esgobion.

Meddai’r Esgob Bari Margam o’r Eglwys yng Nghymru: “Mae hyn yn drefniant perffaith i ni. Mae’n golygu y bydd ein haelodau ceidwadol yn hapus na fydd merched yn Esgobion ond o leia y cawn ni rhwyfaint o make-up ar y pulpud ar gyfer digwyddiadau arbennig.”

Ac mae’r Ffermwyr Ifanc hefyd yn hapus â’r trefnaint yn ôl un aelod, Jâms Tomos, o Sir Benfro.

“Yn y byd sydd ohoni yndyfe, mae’n amhosib i ni Ffermwyr Ifanc ymarfer ein Deuawdau Doniol ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc oherwydd nag yn nhw’n ddigon P.C, yndyfe. Ma’r trefnaint ‘ma’n rhoi llwyfan i’n haelodau ni i ymarfer gwisgo fel merched ac yn golygu na fydd neb yn mynd yn grac gyda ni am roi balŵns i fyny’n topie a rhoi colur ‘mlân yn flêr.”

Pan ofynwyd i Jâms Tomos pam ei fod yn rhoi balŵns i fyny ei grys-t, ei ateb oedd: “Ma’ nhw’n edrych fel tethi benwod chi’n gweld.”

Dros y misoedd nesaf, bydd grwpiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnal cystadlaethau dros y wlad i chwilio am y “Ffermwr Ifanc sy’n Gwisgo fel Esgob Benwyaidd Orau” a bydd disgwyl i’r aelod buddugol ddechrau ei swydd fel Esgob cyn diwedd haf 2013.

Cwyno bod dim digon o “hiliaeth” yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

Mae rhai o eitemau Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc nos Sadwrn wedi cael eu cyhuddo ar gyfryngau cymdeithasol o beidio bod yn ddigon “hiliol” ac mae S4C wedi tynnu’r rhaglen oddi ar wefan ail-wylio Clic.

Cafodd yr Eisteddfod ei darlledu yn fyw o Abergwaun ac mae eitemau oedd yn cynnwys dynwarediadau o ddau ddyn o Tsieina, babi du esgus, a dynion yn gwisgo fel merched wedi cael canmoliaeth anferth gan y gwylwyr. Ond achosodd eitem arall oedd yn cynwys y linnell “Heddwch a thangnefedd i bawb o bobl y byd” y nifer fwyaf o gwynion yn hanes S4C gan nad oedd hi’n hiliol o gwbl.

Meddai trefnydd yr Eisteddfod, William Edwards: “Rydyn ni’n falch o’n record hiliol yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ond mae wastad lle i wella. Yn dilyn y cwynion gafon ni eleni, rydyn ni wrthi’n barod yn meddwl am gystadleuaethau mwy hiliol byth erbyn flwyddyn nesaf. Mi fydd y gystadleuaeth ‘Dynwared Hitler dan 18’ yn cael ei feirniadu gan gomediwr amlwg o’r 70au.”

Mae Huw Jones yn ffermwr llaeth ar Sir Fôn ac fe ddywedodd o wrth Llygad Ddu ei fod yn falch bod pobl yn mwynhau’r hiliaeth ysgafn sydd ar ddangos yn yr Eisteddfod.

“Da ni’n treulio oriau yn rwbio siocled ar ein gilydd er mwyn edrych yn frown a dwi mor falch bod pobl yn gwerthfawrogi’r ymdrech. Wedi’r cwbl, pwy arall sy’n mynd i wneud hwyl ar ben pobl sy’n wahanol i ni?”

Ond er bod rhai pobl mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd ac Abertawe yn dechrau gwrthwynebu’r hiliaeth, mae Eisteddfod Fermwyr Ifanc yma i aros yn ôl y trefnydd.

“Iawn iddyn nhw hefo’i ceir crand, a’i tai mawr yn y dinasoedd. Ond dydyn nhw ddim yn dallt mai ni, yng nghefn gwlad, ydi cadernle olaf hiliaeth. Ac os gollwn ni hwnnw, fyddwn ni’n ddim byd ond Eisteddfod arferol arall.”