Achub Tafwyl: Rhyddhad i Gaerdydd

Delwedd

Roedd sŵn aflafar yng Nghaerdydd ddoe wrth i 346,100 o drigolion y brifddinas ochneidio anadl o ryddhad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddan nhw’n llenwi’r bwlch ariannol i ŵyl undydd Tafwyl.

Dydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw am dorri eu nawdd nhw i’r ŵyl o 100%, neu £20,000, oherwydd yr arbedion sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.

Roedd hi fel petai bod cwmwl mawr wedi codi dros Caerdydd y bore ma wrth i bobl fynd ymlaen a’u bywydau.

Gŵyl bwysig
Dywedodd Marian Wilias, sy’n athrawes yn ysgol gynradd Gymraeg Coed Dydd, ei bod hi wrth ei bodd â’r penderfyniad.

“Roedd y peth yn warthus siŵr. Roedd y teulu i gyd wedi mwynhau eu hunain gymaint llynedd. Roedd mam a dad wedi dod lawr o Sir Fôn yn arbennig i weld Rapsgaliwn. Pa ŵyl Gymraeg arall sydd yna i bobl Cymraeg Caerdydd? Dim. Dyna faint.”

“A pha gyfle arall sydd yna i’r plant ‘cw, Gwyndaf Haf a Ceri Mai, i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas a thu hwnt, arwahan i’r Eisteddfod?

“Mae un diwrnod Tafwyl yn ddigwyddiad mor bwysig a dyna’r unig dro mewn blwyddyn dwi’n cael cyfle i weld a chymdiethasu hefo fy nghyfoedion fel petai hi’n Steddfod Bala ‘97 unwaith eto – arwahan i’r Eisteddfod wrth gwrs.”

Blaenoriaethu
A gyda thoriadau eraill y cyngor yn golygu stopio cymorthdaliadau cerddoriaeth yn yr ysgol – wnaeth helpu 2,800 o blant i ddysgu offerynnau cerddorol llynedd  – yn ogystal â chau phwll nofio Splott, sydd mewn ardal difreintiedig, mae Marian yn falch bod y Llywodraeth wedi cael eu blaenoriaethau yn iawn.

“Diolch byth eu bod nhw wedi gwneud hyn. Mae Tafwyl yn gwneud mwy i hybu’r iaith Gymraeg yn y ddinas mewn un diwrnod na’r un digwyddiad arall erioed – arwahan i Esiteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Yr un diwrnod mewn blwyddyn lle mae gennym ni gyfle i godi proffil iath y nefoedd. Bydded i Tafwyl barhau!”

Dywedodd Kyle Smith sy’n byw yn ardal Trelai yn y ddinas: “A Welsh festival in the Castle? Never ‘eard of it. What’s the point of that then?”

Ffermwyr Ifanc wedi gwisgo fel merchaid i fod yn Esgobion

Delwedd

Ar ôl i Synod Cyffredinol Yr Eglwys yn Lloegr bledleisio yn erbyn y syniad o gael esgobion benywaidd ddoe, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi datgan ei bod nhw wedi dod i gyfaddawd gyda’u haelodau nhw.

Er na fydd merched yn cael bod yn Esgobion yng Nghymru chwaith, mae’r Eglwys wedi bod mewn trafodaethau gyda grwpiau Ffermwyr Ifanc y wlad i gael aelodau gwrywaidd o’r mudiad sydd wrth eu boddau yn gwisgo fel merched i fod yn Esgobion.

Meddai’r Esgob Bari Margam o’r Eglwys yng Nghymru: “Mae hyn yn drefniant perffaith i ni. Mae’n golygu y bydd ein haelodau ceidwadol yn hapus na fydd merched yn Esgobion ond o leia y cawn ni rhwyfaint o make-up ar y pulpud ar gyfer digwyddiadau arbennig.”

Ac mae’r Ffermwyr Ifanc hefyd yn hapus â’r trefnaint yn ôl un aelod, Jâms Tomos, o Sir Benfro.

“Yn y byd sydd ohoni yndyfe, mae’n amhosib i ni Ffermwyr Ifanc ymarfer ein Deuawdau Doniol ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc oherwydd nag yn nhw’n ddigon P.C, yndyfe. Ma’r trefnaint ‘ma’n rhoi llwyfan i’n haelodau ni i ymarfer gwisgo fel merched ac yn golygu na fydd neb yn mynd yn grac gyda ni am roi balŵns i fyny’n topie a rhoi colur ‘mlân yn flêr.”

Pan ofynwyd i Jâms Tomos pam ei fod yn rhoi balŵns i fyny ei grys-t, ei ateb oedd: “Ma’ nhw’n edrych fel tethi benwod chi’n gweld.”

Dros y misoedd nesaf, bydd grwpiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnal cystadlaethau dros y wlad i chwilio am y “Ffermwr Ifanc sy’n Gwisgo fel Esgob Benwyaidd Orau” a bydd disgwyl i’r aelod buddugol ddechrau ei swydd fel Esgob cyn diwedd haf 2013.

Cwyno bod dim digon o “hiliaeth” yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

Mae rhai o eitemau Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc nos Sadwrn wedi cael eu cyhuddo ar gyfryngau cymdeithasol o beidio bod yn ddigon “hiliol” ac mae S4C wedi tynnu’r rhaglen oddi ar wefan ail-wylio Clic.

Cafodd yr Eisteddfod ei darlledu yn fyw o Abergwaun ac mae eitemau oedd yn cynnwys dynwarediadau o ddau ddyn o Tsieina, babi du esgus, a dynion yn gwisgo fel merched wedi cael canmoliaeth anferth gan y gwylwyr. Ond achosodd eitem arall oedd yn cynwys y linnell “Heddwch a thangnefedd i bawb o bobl y byd” y nifer fwyaf o gwynion yn hanes S4C gan nad oedd hi’n hiliol o gwbl.

Meddai trefnydd yr Eisteddfod, William Edwards: “Rydyn ni’n falch o’n record hiliol yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ond mae wastad lle i wella. Yn dilyn y cwynion gafon ni eleni, rydyn ni wrthi’n barod yn meddwl am gystadleuaethau mwy hiliol byth erbyn flwyddyn nesaf. Mi fydd y gystadleuaeth ‘Dynwared Hitler dan 18’ yn cael ei feirniadu gan gomediwr amlwg o’r 70au.”

Mae Huw Jones yn ffermwr llaeth ar Sir Fôn ac fe ddywedodd o wrth Llygad Ddu ei fod yn falch bod pobl yn mwynhau’r hiliaeth ysgafn sydd ar ddangos yn yr Eisteddfod.

“Da ni’n treulio oriau yn rwbio siocled ar ein gilydd er mwyn edrych yn frown a dwi mor falch bod pobl yn gwerthfawrogi’r ymdrech. Wedi’r cwbl, pwy arall sy’n mynd i wneud hwyl ar ben pobl sy’n wahanol i ni?”

Ond er bod rhai pobl mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd ac Abertawe yn dechrau gwrthwynebu’r hiliaeth, mae Eisteddfod Fermwyr Ifanc yma i aros yn ôl y trefnydd.

“Iawn iddyn nhw hefo’i ceir crand, a’i tai mawr yn y dinasoedd. Ond dydyn nhw ddim yn dallt mai ni, yng nghefn gwlad, ydi cadernle olaf hiliaeth. Ac os gollwn ni hwnnw, fyddwn ni’n ddim byd ond Eisteddfod arferol arall.”

Cyw yn wedi mynd yn “rhy fawr” i Gymru

Delwedd

Mae cyhoeddiad S4C am fanylion sioe Nadolig flynyddol Cyw eleni wedi cythruddo nifer o rieni ac wedi torri calonau plant bach Cymru.

Cyhoeddwyd ddoe na fydd sioe eleni oherwydd bod Cyw wedi mynd yn “rhy fawr i S4C” a’i fod yn treulio’i amser yn partio gyda enwogion fel Rhys Ifans, Bryn Williams y cogydd a gweddill criw Primrose Hill.

Dywedodd un o staff S4C: “Mae hi’n amhosib cael gafael ar Cyw y dyddiau yma. Mae o wastad yn Ibiza neu Hollywood. Ond, mae hi hyd yn oed yn waeth pan mae o yn troi fyny. Mae o’n drewi o vodka rhad ac yn mynd i’r tŷ bach yn lot rhy aml – os da chi’n dallt be dwi’n ddweud.”

Daeth y penderfyniad i ganslo’r sioe ar ôl i fideo o Cyw, a dynnwyd gan aelod o’r cyhoedd, gael ei roi ar YouTube. Roedd y fideo yn dangos yr aderyn bach hawddgar mewn tafarn yng Nghaerdydd yn cwyno am ei gynulleidfa. Er bod y ffilm wedi ei dynnu erbyn hyn, mae’n debyg bod Cyw wedi dweud: “F**k the kids. Mae nhw’n f****ing b*****ds man. Now f****ing pass me the meow-meow you c***t.”

Mae Marged Meirwen yn fam i blentyn 3 oed ac mae hi’n meddwl ei fod o’n warth nad oes Sioe Nadolig Cyw eleni.

“Dwi wedi bod yn mynd a’r hogyn ‘cw i Sioeau Nadolig Cyw ers cyn iddo fo gael ei eni ac mae o wrth ei fodd. Be neith rhieni dosbarth canol Cymraeg fel fi rwan? Sut ydan ni fod i deimlo ein bod ni’n rhoi’r dechrau gorau posib i’r plant? Sbiwch, mewn difri calon, sbiwch pa mor drist ydi o,” esbonia Marged tra bod ei mab yn ceisio stwffio darn o Lego i fyny ei drwyn.

Mae’n debyg bod Stifyn Parri wedi cael ei gyflogi gan y sianel cenedlaethol i geisio arwain Cyw nôl ar y llwybr cul ond dyw’r sianel, na Stifyn, wedi cadarnhau hynny.

George Lucas yn bwriadu gwneud ffilm am Gyngor Gwynedd

Delwedd

Now-Bom Kenobi

Cyhoeddwyd heddiw bod George Lucas, crëwr y ffilmiau Star Wars, am wneud ffilm am hanes diweddar Cyngor Gwynedd.

Gwneuthpwyd y datganiad tra bod cabinet y Cyngor (cabinet sydd ddim yn cynnwys yr un aelod o ail blaid fwya’r Cyngor, Llais Gwynedd!) yn cyfarfod i drafod strategaeth addysg y sir – pwnc sydd wedi cyffroi’r dyfroedd yng Ngwynedd, a Chaliffornia, yn y blynyddoedd diwethaf.

Teitl y ffilm newydd fydd ‘Cyngor Gwynedd Pennod VI: Gobaith Newydd’ ac mae Llygad Ddu ar ddeall y bydd hi’n dilyn yr hynt a helynt o fewn y Death Star (Cyngor Gwynedd) ers 2007.

Mae’n debyg y bydd y ffilm yn portreadu Gwynedd fel petai hi mewn rhyfel cartref a bod rhai o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru wedi gadael a dechrau plaid rebel newydd o’r enw Llais Gwynedd er mwyn atal cynlluniau Plaid Cymru i gau pob ysgol yn y bydysawd.

Mae Geroge Lucas hefyd wedi cymryd y cam anghyffredin o enwi rhai o’r cymeriadau fydd yn y ffilm. Mae’r rhain yn cynnwys Darth Iwan, Alwyn Skywalker, Princess Siân Gwenllian, Now-Bom Kenobi a Dyfrig Solo.

Bydd y ffilmio yn dechrau ar ôl y Nadolig ac mae disgwyl i’r ffilm gael ei dangosiad cyntaf yn Cofi Roc, Caernarfon cyn diwedd 2013.

Amserlen newydd Radio Cymru

Delwedd

Roedd hi’n gyfnod cyffrous ar Radio Cymru ddoe wrth iddyn nhw lansio amserlen newydd sbon. Aeth Lowri Davies, Golygydd Radio Cymru, ati ar ei blog sydd wedi ei guddio ymhell o fewn gwefan y BBC i amlinellu’r amserlen gyffroes newydd.

“Mae’r  diwrnod o raglenni arbennig ar Radio Cymru  yn dechrau am 05.30 bob bore gyda chyfle arall i glywed rhai o raglenni lled hiliol yr orsaf megis  Ar Eich Cais gyda Dai Jones, John ac Alun a Jonsi.

Fe fydd y Post Cyntaf yn dod â’r newyddion diweddaraf o Gymru a’r byd fel arfer am 06.30 a does dim newid chwaith gyda Dafydd a Caryl yn creu’r awydd i gyflawni hunanladdiad ar hyd a lled y wlad am 08.30. Yna, am 10.30 bob bore, Llun i Gwener, fe fydd Iola Wyn yn cyflwyno rhaglen newydd sbon yn fyw o stiwdio Caerfyrddin fydd yn gymysgedd eang, blinedig o gyfrannwyr ac eitemau. Dychmygwch Nia Roberts o’r sowth ac fe gewch chi hanfod y rhaglen.

Yna, am 12.30 fe fydd Dylan Jones yn Taro’r Post efo rhaglen estynedig tan 2 oherwydd ein bod ni’n teimlo nad oedden nhw’n cael digon o drafferth i lenwi awr gyda materion dibwys lleol fel yr oedd hi.  Ac yn y prynhawn bydd bydd Nia Roberts yn cyflwyno ei rhaglen hi – dychmygwch Iola Wyn o’r gogs – o Ddydd Llun i Ddydd Iau. Ac ar brynhawn Gwener fe fydd y penwythnos yn cychwyn o ddifri (neu ddim!) gyda PC Leslie Wynn – y cyflwynydd mwaf camp ers Gwilym Owen –  a’r criw am 2.30, cyn ei raglen ar bryhnawn Sadwrn rhwng 12 a 2.

Gyda rhifyn estynedig o’r Post Prynhawn am 5 bob dydd, fe fydd rhaglenni poblogaidd eraill fel Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth, Dei TomosCofio a Beti a’i Phobl yn dilyn am chwarter wedi 6.

Bydd C2 yn cychwyn am 7 gyda Huw “Dwi ar Radio 1” Stephens bob nos Lun, Ifan “Pwy yw’r Sibydrion te?”” Evans ar nos Fawrth, Lisa “Dwi’n caru’r Cowbois! Hyfryd!” Gwilym ar nos Fercher a Georgia “Na, fi sy’ n caru’r Cowbois!” Ruth ar nos Iau – ac fe fydd Gwilym “Nes i ‘sgwennu Cân i Gymru hefo mam” Rhys o’r grwp roc heriol Y Bandana yn cyflwyno bob nos Wener ychydig yn gynt am hanner awr wedi 6. A gyda’r hwyr bob nos rhwng 10 a hanner nos fe fydd Geraint Lloyd yn gwmni i ni gyd gyda digon o gerddoriaeth, ceisiadau, sgyrsiau ac ambell i bôs cyn i ni fynd i’r gwely gyda potel o bleach a thabled cyanide.

Fel y gwelwch chi, bydd Radio Cymru ar ei newydd wedd felly’n cynnig rhaglenni newydd cyffrous, yn ogystal â chadw rhai o’r fferfynnau sydd mor greiddiol i’r gwasanaeth. Dwi’n mawr obeithio y byddwch chi’r gwrandawyr – y bobl bwysicaf arwahan i ni – yn mwynhau’r arlwy newydd sbon danlli yma.”

BBC yn ymddiheuro am ‘dorri ymddiriedaeth’ y Frenhines

Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl i ohebydd ddatgelu fod y Frenhines yn pryderu am anallu Prydain i stopio rhaglenni fel The Valley.

Delwedd

Mae’r gyfres yn dilyn hynt a helynt cwpl ifanc sydd am ddianc Lundain er mwyn byw yn Y Fali, Sir Fôn ac ar y rhaglen neithiwr cafwyd iaith liwgar, llawer o gyfeiriadau at ryw, ac fe ddangosodd y ferch  ei bronnau tra’n siarad Cymraeg i’r camera.

Mae’r BBC wedi dweud y dylai’r sgwrs rhwng Frank Strait a’r Frenhines fod wedi aros yn breifat a bod y gohebydd yn “difaru’n ddwys” ei fod wedi torri ymddiriedaeth y Frenhines.

Roedd Frank Strait, gohebydd straeon di-nod y BBC, wedi dweud wrth raglen Today fod y Frenhines wedi gofyn: “Ydi’r hogyn ‘na isio bod yn frenin ta be? A pham ei bod hi’n ei tynnu nhw allan rownd y ril?”

“Roedd hi’n ypset fod ei wyr a’i wraig yn cael eu pardduo gan y rhaglen oedd yn defnyddio’r teulu brenhinol fel llwyfan ar gyfer ei safbwyntiau plebaidd, rhywiol, rhad ac anfoesol,” meddai Strait.

Dywedodd llefarydd ar ran darlledwr y rhaglen, MTV: “Chillax, it’s only tv. Dio’m fel bod ni wedi rhoi lluniau o’r boobs yn yr Irish Daily Star na ddim byd. ”