Roedd sŵn aflafar yng Nghaerdydd ddoe wrth i 346,100 o drigolion y brifddinas ochneidio anadl o ryddhad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddan nhw’n llenwi’r bwlch ariannol i ŵyl undydd Tafwyl.
Dydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw am dorri eu nawdd nhw i’r ŵyl o 100%, neu £20,000, oherwydd yr arbedion sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.
Roedd hi fel petai bod cwmwl mawr wedi codi dros Caerdydd y bore ma wrth i bobl fynd ymlaen a’u bywydau.
Gŵyl bwysig
Dywedodd Marian Wilias, sy’n athrawes yn ysgol gynradd Gymraeg Coed Dydd, ei bod hi wrth ei bodd â’r penderfyniad.
“Roedd y peth yn warthus siŵr. Roedd y teulu i gyd wedi mwynhau eu hunain gymaint llynedd. Roedd mam a dad wedi dod lawr o Sir Fôn yn arbennig i weld Rapsgaliwn. Pa ŵyl Gymraeg arall sydd yna i bobl Cymraeg Caerdydd? Dim. Dyna faint.”
“A pha gyfle arall sydd yna i’r plant ‘cw, Gwyndaf Haf a Ceri Mai, i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas a thu hwnt, arwahan i’r Eisteddfod?
“Mae un diwrnod Tafwyl yn ddigwyddiad mor bwysig a dyna’r unig dro mewn blwyddyn dwi’n cael cyfle i weld a chymdiethasu hefo fy nghyfoedion fel petai hi’n Steddfod Bala ‘97 unwaith eto – arwahan i’r Eisteddfod wrth gwrs.”
Blaenoriaethu
A gyda thoriadau eraill y cyngor yn golygu stopio cymorthdaliadau cerddoriaeth yn yr ysgol – wnaeth helpu 2,800 o blant i ddysgu offerynnau cerddorol llynedd – yn ogystal â chau phwll nofio Splott, sydd mewn ardal difreintiedig, mae Marian yn falch bod y Llywodraeth wedi cael eu blaenoriaethau yn iawn.
“Diolch byth eu bod nhw wedi gwneud hyn. Mae Tafwyl yn gwneud mwy i hybu’r iaith Gymraeg yn y ddinas mewn un diwrnod na’r un digwyddiad arall erioed – arwahan i Esiteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Yr un diwrnod mewn blwyddyn lle mae gennym ni gyfle i godi proffil iath y nefoedd. Bydded i Tafwyl barhau!”
Dywedodd Kyle Smith sy’n byw yn ardal Trelai yn y ddinas: “A Welsh festival in the Castle? Never ‘eard of it. What’s the point of that then?”