Aled Jones mewn sioc wedi iddo gael ei alw’n “ddiflas”

Delwedd

Ers iddo ddechrau ei swydd newydd yn cyflwyno Daybreak ddechrau’r wythnos, mae’r canwr a chyflwynydd teledu, Aled Jones, wedi cael ei synnu gan sylwadau’r cyhoedd sy’n ei alw’n “ddiflas”.

Mae’r rhaglen foreuol wedi cael ei ailwampio gyda Aled Jones a Lorraine Kelly wrth y llyw yn dilyn methiant Adrian Chiles a Christine Bleakley i ddenu gwylwyr.

“Allai’m colio bod pobl yn fy ngalw i’n ddiflas,” meddai Aled Jones ac yntau bron mewn dagrau. “Ai person diflas sy’n cymryd rhan yn Strictly Come Dancing? Ai person diflas sy’n cael ei ddewis i gyflwyno Songs of Praise? Does gan y cyhoedd ddim syniad faint o gacenau cartref dwi wedi gorfod bwyta dros y blynyddoedd – a dwi’m hyd yn oed yn hoffi sponge!”

Daeth Aled i amlygrwydd yn ei arddegau am ganu ‘Walking in the Air’ o’r ffilm Snowman ac mae tynged y dyn eira yn wers i’r pobl sy’n ei alw’n ddiflas.

“Dwi ddim isio siarad am y peth,” meddai Aled. “Roedd ‘na gyhuddiadau am rhywbeth yn ymwneud â thecell a tân trydan ond doedd neb yn gallu profi dim, so, y’know…”

Mae Kelly Williamson o Fangor yn wyliwr cyson o Daybreak ac mae hi’n meddwl bod Aled yn un o’r cyflwynwyr mwyaf diflas fuodd ar y teledu erioed.

“My god, mae o yn yr un league a Matt Baker One Show neu’r Nia Roberts ‘na off y weirles. Ma’ boreua’n ddigon anodd fel ma’i heb i’r person ar y teli neud o’n waeth. Bring back Eamonn Holmes dduda i. Os dio’n cario ‘mlaen fel hyn, nai’m boddran codi tan Jeremy Kyle a pwy fydd yn estyn coco-pops i’r plant ‘cw wedyn?”

Roedd Llygad Ddu yn gobeithio cael ymateb Aled Jones i gyhuddiadau Kelly ond roedd rhaid iddo fynd ar frys i wylio paent yn sychu a didoli ei gasliad o stampiau yn nhrefn y wyddor tra’n chwarae gwyddbwyll hefo fo’i hun.

Gadael sylw