Symud Ysbyty Blaenau Ffestiniog i safle Atomfa Trawsfynydd

Delwedd

Rhyddhad i’r trigolion lleol na fyddan nhw yn gorfod teithio i Ysbyty Alltwen i dderbyn gofal a thriniaeth yn y dyfodol.

Daeth tro yng nghynffon saga hirfaith dyfodol gwasanaethau iechyd Blaenau Ffestiniog heddiw.

Bu trigolion y dre yn brwydro ers tro i gadw ysbyty’r dre yn agored, ac yn wrthwynebus iawn i fwriad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adleoli eu gwasanaethau 15 milltir i safle Alltwen ger Tremadog. Dywedodd yr ymgyrchydd lleol a adnabyddir dan yr enw Siân Dan y Fawnog:

“Roeddan ni’n poeni am golli’r ysbyty. Nid o ran egwyddor, ond am y bysa ni’n gorfod mynd i Alltwen. Mae fanna wrth ymyl Port, neno’r Tad! Port! Cafwyd cyfarfod cymunedol am hyn rai misol yn ôl, a’r farn unfrydol ymhlith pobol Blaena’ oedd ‘Nô wê hosê’.

“Mae’r holl beth wedi bod fel cwmwl mawr du ofnadwy yn hofran uwchben y dre, yn drosiadol ac yn llythrennol.”

Roedd ymgyrchydd arall yn fwy optimistig ynglŷn â’r dyfodol, “Fysa ni wedi gorfod cael death cetificate’s pawb yn Pwllheli. Tynnu byniyns yn Bangor. ‘Di o not on. Blaena’ ‘di fama, nid Beirut.

“Ond mae hyn yn siwtio ni i’r dim â deud y gwir. Roeddan ni’n poeni am yr uned Pelydr X, ond mae’r offer yna i gyd yn Traws yn barod; ‘mond mynd o fewn 20 metr i’r Atomfa sydd isho chi, a hei presto – esgyrn pawb i’w weld yn glir fel ‘senna Angharad Mair. Bydd hynna yn safio prynu offer newydd i’r Alltwen fondigrybwyll, ac ma pob ceiniog yn cyfri efo’r petha ma dydi.

“Daw eto haul ar fryn medda nhw ‘de. Heblaw Blaena’. Sna’m haul yn fama.”

Pan holwyd y Bwrdd Iechyd lleol, dywedodd lefarydd ar ei ran, “Wnawn ni byth blesio pawb ac roedd wedi dod yn amlwg i ni na fyddai datrysiad syml i’r broblem yma.

“Yn ffodus i ni, ar ôl clirio cwpwrdd morffin y fferyllydd lleol a mynd am chwalfa 3 diwrnod i’r Tap yn Tan’grisiau, mi ddaethon ni o hyd i’r ateb, a symud yr ysbyty i ganol nunlla. Mae adnoddau’r Atomfa heb eu hail. Bydd yn ysbyty o safon ryngwladol.

“Rŵan sgisiwch fi, ma rhywun ‘di deutha’ i bod y parti yn Llanfrothen pnawn ma. Reu!”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s