Dai Jones yw Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru

Delwedd

Mae’r Prif Weinidog wedi enwi Dai Jones fel Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru. Bydd y ffermwr a‘r cyflwynydd teledu poblogaidd yn cymryd lle Cheryl Gillian fel rhan o ail-drefnu’r cabinet.

Roedd Dai Jones ar ben ei ddigon ar ôl clywed y newyddion.

“Ro’n i’n bwyta fy mrecwast ar y pryd,” meddai Dai wrth chwysu. “Ew, roedd o’n frecwats da. Bacwn, wy, sosej, pwdin gwaed, bara saim a ffa pob. ”

Dywedodd Y Prif Weinidog, David Cameron: “Dwi ar ddeall fod Dai Jones, fel ffermwr cyfoethog, yn  geidwadwr o’r un brethyn a llawer ohonom ni ac yn siwr o fynd ar nerfau’r Rhyddfrydwyr.  Alla’i ddim gweld hyn yn methu.”

“Chops, pwdin gwyn, bara menyn, pot o de, tost a marmaled, Rice Crispies a hanner grawnffrwyth hefo siwgr brown,” ychwanega Dai.

Mae polisiau cynta’r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn debygol o fod yn rhywbeth i’w wneud gyda difa Moch Daear a newid trefniant S4C a’r BBC fel bod dwy gyfres o Cefn Gwlad y flwyddyn yn cael ei chynhyrchu hyd at 2025.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s