S4C a BBC Cymru Wales yn meithrin talent ysgrifennu newydd, ffresh, gwreiddiol, cyfoes a radical.

Delwedd

Mae menter newydd ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru wedi dwyn ffrwyth am y tro cyntaf wedi i’r ddrama gomedi newydd Portars gael ei darlledu ar BBC Radio Cymru nos Wener.

Portars yw’r cynhyrchiad cyntaf fel rhan o fenter newydd rhwng S4C a BBC Cymru i ddatblygu syniadau gan awduron drama a chomedi Cymraeg newydd.

Yr actor a’r awdur adnabyddus, Eilir Jones, sy’n potreadu’r Ffarmwr Ffowc, yw’r llais newydd, ffresh sydd wedi cael ei ddewis fel y cynta i gymryd rhan yn y fenter.  Eilir hefyd yw awdur y sitcom Naw tan Naw ar S4C yn ogystal â’r sioeau llwyfan Caffi Basra, Dal i Bwmpio ac Un Fach Flewog i Theatr Bara Caws – a’r gyfres Torri Calon i Radio Cymru.

“Dwi mor falch mod i wedi cael y cyfle yma,” meddai Eilir. “Heb y fenter, tydw i wir ddim yn gwybod sut fyswn i’n  gallu torri drwodd ym myd cystadleuol y cyfryngau Cymraeg.”

Bwriad y ddau ddarlledwr Cymraeg yw gweithio gyda’i gilydd er mwyn datblygu a meithrin talent ysgrifennu newydd gan greu rhaglenni gwahanol i’r ddau gyfrwng fel ei gilydd.

Yn y misoedd nesa, mae disgwyl i ragor o leisiau ifanc cyfoes Cymraeg  gael y cyfle i ddatblygu eu syniadau nhw i’r radio neu’r teledu. Ymysg y prosiectau yma mae drama radio gan Meic Povey am deulu mewn argyfwng yng nghefn gwlad Gogledd Orllewin Cymru, a drama deledu fydd yn serenu pif gymeriad cryf benywaidd – fel  Tair Chwaer, Con Passionate neu Alys – gan Siwan Jones.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Mae hi wastad yn gyffrous gweld talent newydd yn cael ei meithrin o’r dechrau, fel sydd wedi digwydd gyda Eilir. Mae hi’n gywilydd nad ydi o wedi cael y cyfle yma ar y sianel genedlaethol o’r blaen.

Meddai Golygydd BBC Radio Cymru, Lowri Rhys Davies. “Ffarmwr Ffowc…? Nope, dim syniad. Pam? ‘Dio’n enwog?”

Advertisements

Un sylw ar “S4C a BBC Cymru Wales yn meithrin talent ysgrifennu newydd, ffresh, gwreiddiol, cyfoes a radical.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s