MTV yn amddiffyn rhaglen realaeth The Valleys

Delwedd

Mae cyfarwyddwyr MTV wedi amddiffyn rhaglen realaeth The Valleys gan fynnu nad yw’n bwriadu creu argraff anffafriol o Gymru.

Mae’r rhaglen, sy’n dechrau ddiwedd y mis, yn dilyn hynt a helynt naw o bobl sydd wedi symud o’r Cymoedd i’r brifddinas ac sy’n ceisio creu argraff ar hyrwyddwr clwb nos a model fydd hefyd yn rhoi hyfforddiant iddyn nhw. Bydd y hyfforddiant yn cynnwys cerdded mewn llinell syth a sut mae defnyddio cyllell a fforc.

“Rydyn ni wedi bod yn ofalus ein bod ni ddim yn creu argraff wael o Gymru,” meddai cyfarwyddwr MTV, Kerry Taylor, o’i swyddfa moethus yn Llundain. “Roedd rhaid i bawb oedd yn ymgeisio llenwi holiadur felly bydd dim ailadrodd o be ddigwyddodd yn Big Brother gyda Glyn ac Imogen pan oedden nhw’n siarad yr iaith  Lord of The Rings ‘na gyda’i gilydd. Achos mae pawb yn gwybod mai’r unig bryd mae’r Cymry’n siarad Elvish ydi pan mae ymwelwyr yn cerdded i mewn i dafarn.”

“Rydyn ni hefyd wedi gwneud yn siwr nad oes un o’r criw wedi cael cyfathrach rhywiol gyda dafad a does yr un ohonyn nhw’n ganlyniad i berthynas losgachol. Ond,” ychwanega, “mae dwy ohonyn nhw wedi gweithio mewn pyllau glo pan oedden nhw’n ifanc – doedd dim osgoi hynny.”

Ond mae rhai’n ofni y bydd y rhaglen yn portreadu’r Cymry fel ffyliaid arwynebebol sy’r un lliw a tanjerîn ac yn fodlon gwneud unrhywbeth i fod yn enwog.

“Mae gen i of yn bydd y rhaglen yn portreadu’r Cymry fel ffyliaid arwynebebol sy’r un lliw a tanjerîn ac yn fodlon gwneud unrhywbeth i fod yn enwog,” meddai’r Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Elfyn Llwyd.

Dywedodd Jenna Jonathan, un o’r merched sydd wedi cael ei dewis, “Dwi’n rili rili rili rili excited! A dwi’n rili rili rili edrych ‘mlaen i gael mynd mewn i’r VIP lounge yn Tiger Tiger a cyfarfod pobl rili rili rili enwog fel Max off Pobol y Cwm. Eeek!”

“A mae players rygbi yn Tiger Tiger lot hefyd so dwi’n rili rili rili excited i fod mewn scrum hefo ambell un ohonyn nhw. Fydd o fel Dolig a phen-blwydd mewn un, neu mewn sawl, twll.”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s