Maes Awyr Caerdydd yn derbyn newyddion cadarnhaol o’r diwedd

Delwedd

Cyhoeddwyd heddiw y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cael enw newydd, ac y bydd y maes awyr cyntaf o’i fath i gynnig hediadau y tu hwnt i atmosffer y ddaear o 2013 ymlaen.

Er gwaethaf siomedigaethau diweddar, a nifer o gwmnïau awyrennau fel Vueling a Helvetic yn gohirio hediadau oddi yno, mae’r perchnogion wedi gweld cyfle i ddatblygu syniadau arloesol a fydd yn sicrhau dyfodol y maes awyr am ganrifoedd, os nad am filoedd o flynyddoedd i ddod.

Bydd enw’r maes awyr yn newid i ‘Faes Rhyngalaethol y Rhŵs’. Bydd dim gwasanaethau lleol, cenedlaethol na rhyngwladol yno bellach. Bydd yn canolbwyntio yn gyfan gwbwl ar y farchnad fydysawdol.

Croesawyd y newyddion gan lefarydd ar ran y Maes Awyr.

“Bydd dim angen lleiniau glanio gan fod y soseri a fydd yn hedfan yma yn esgyn a glanio yn unionsyth gan ddefnyddio pelydrau uwchsonig i arafu a chyflymu. Felly gallwn hwyluso tua chwe gwaith nifer yr hediadau a fydd maes awyr cyffredin yn ei wneud.

“Disgwylir y bydd y datblygiad hwn yn cynnig profiad hollol wefreiddiol i ddefnyddwyr; rhywle rhwng Star Trek a The Jetsons. Roedd Star Trek ganrifoedd yn y dyfodol, a’r Jetsons yn y flwyddyn 2062, felly rydan ni o flaen ein hamser, os rhywbeth.

“Bydd yn newyddion gwych i economi Caerdydd, Bro Morgannwg a phlaned V391 Pegasi b.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn cynorthwyo gyda’r datblygiad diweddaraf “Byddwn yn disgwyl cannoedd o filoedd o ddefnyddwyr bydol i’r gwasanaeth newydd hwn; ar gyfer siwrneiau pleser yn bennaf yn y lle cyntaf.

“Mae’n anodd rhoi ffigwr ar faint o ddefnyddwyr arallfydol a fydd gan fod y bydysawd yn ei hanfod yn ddiderfyn; does neb â ŵyr faint yn union a fydd yn clywed ein signalau hysbysebu. Mae’n gyfforus iawn.”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s