Salmond a Cameron i Chwarae yn Dilyn Llwyddiant Murray

Mae’n debyg fod Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn barod i herio Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, mewn gêm o denis fawreddog.

Daw hyn ychydig oriau wedi i Andy Murray ennill ei Grand Slam gyntaf ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau neithiwr. Bwriad y gêm fydd penderfynu unwaith ac am byth os mai Albanwr neu Brydeiniwr yw’r Albanwr.

Credir fod Salmond wedi ymateb yn flin i sylw a gyhoeddwyd gan Cameron ar trydar yn dilyn y gêm. Dyma’r twit:

“Wrth fy modd fod yr haf euraidd o chwaraeon yn parhau wrth i Andy Murray ennill yr US Open i ni.”

Nid yw Salmond yn gallu trydar ond mae’n debyg fod sawl llygad dyst wedi ei weld a’i glywed yn ymateb yn chwyrn pan glywodd y sylwadau mewn siôp tships yng Nghaeredin yn oriau man y bore.

Roedd arweinydd yr SNP wedi bod allan yn yfed ac yn gwylio’r gêm gyda rhai o’i gyfoedion ond sicrhaodd Salmond wrth selogion y siôp sglodion nad y wisgi oedd yn siarad pan gyhoeddodd:

“Reit, dwi wedi cael llond bol o’r twat yna yn trio cymryd y clôd am bob dim. Mae o wedi cael haf da iawn rhwng bob dim, pam na wneith o jyst gadael i mi gael hon.”

Yna, mae’n debyg i Salmond daflu ei fars-bar-mewn-cytew i’r llawr cyn datgelu:

“Alla i ddim bwyta hwnna, dwi’n dechrau ymarfer yfory. Dwi’n mynd i chwarae pum set yn erbyn y pric yna a dwi’n mynd i guro, lle mae fy ffôn i…”

Welodd neb ohono wedyn ond cadarnhaodd llefarydd ar ran rhif deg fod y Prif Weinidog wedi derbyn galwad ffôn yn hwyr neithiwr a’i fod wedi gadael y tŷ gyda’r wawr y bore yma am gyfarfod brys gyda Tim Henman a Sue Barker.

Bydd yn rhaid i’r gêm gael ei chynnal mewn lleoliad niwtral ac mae rhai adroddiadau yn honni fod canolfan hamdden Pwllheli wedi derbyn ymholiadau’n barod. Credir hefyd fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi derbyn gwahoddiad i fod yn ball boy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s