Leighton Andrews yn galw am ailraddio papurau TGAU Saesneg

Delwedd

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi galw ar CBAC i ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg Iaith eleni ar gyfer eu disgyblion nhw yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae’r datganiad gan yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda yn dod yn dilyn y cwymp yng nghanran y disgyblion o Gymru a gafodd A*-C mewn Saesneg Iaith TGAU eleni a dywedodd Leighton Andrews fod rhai disgyblion wedi cael cam am fod ffiniau gradd wedi cael eu newid.

“Roedd canlyniadau TGAU i lawr eleni am y tro cyntaf ers dros degawd,” meddai Mr Andrews. “Ers i TGAU ddisodli’r Lefel O ugain mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi gweld plant Cymru yn mynd yn fwy clefar pob blwyddyn ac yn y cyfnod hwnnw mae ysgolion Cymru hefyd wedi codi eu safon – ac mae’r canlyniadau yn profi hyn. Ond nawr, mae’r canlyniadau i lawr ac mae pobl yn awgrymu mai diffyg astudio gan y plant sydd i’w feio. Dyw hyn not on. Not on my watch.”

Ond mae un marciwr i CBAC, sydd ddim am gael ei enwi, yn credu nad oes angen ailraddio’r papurau:

“Rydych chi’n gwybod bod problem yn y byd addysg pan mae plant yn camsillafu eu henwau neu, fel ddigwyddodd ar un papur, yn rhoi croes yn lle ei enw. Mi fyswn i’n rhoi C i unrhyw ddisgybl fyddai’n gallu ateb y cwestiwn; ‘Beth yw John Steinbeck?’ Oes ‘na unrhywun 16 oed yng Nghymru all ateb? Nagoes.”

Ond mae Mr Andrews yn grediniol mai’r corff arholi CBAC sydd i’w feio am y llanast:

“Mae’n rhaid iddyn nhw wneud yn iawn am a maciau isel. Mae pawb yn gwybod bod cyflogwyr yn edrych ar ganlynidau TGAU cyn unrhywbeth arall ac mae’n rhaid i bobl ifanc gael y sylfaen maen nhw ei angen mewn bywyd. Hefyd, fe ges i C yn fy Lefel O Saesneg, so, os oes ‘na unrhywbeth all gael ei wneud am hynny tra mae nhw wrthi…?”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s