Dihidrwydd yng Nghymru wrth i’r haf o chwaraeon ddirwyn i ben

Delwedd

Yn dilyn seremoni gloi’r Gemau Paralympaidd ddaeth a’r haf o chwaraeon i ben neithiwr, mae’n debyg bod y Cymry’n edrych nôl dros y misoedd diwethaf gyda dihidrwydd llwyr.

Er i lawer o Gymry fod yn llwyddiannus yn y gemau Olympaidd a Paralympaidd, does dim mymryn o ots gan y rhan fwyaf o drigolion y wlad am fedalau, ac mae llawer yn edrych ymlaen i bethau fynd yn ôl i sut oedden nhw.

“Ers dros dri mis rwan, does na’m byd ond chwaraeon wedi bod yn y cyfryngau,” meddai Twm Wyn o Lanrwst. “Wel, dwi wedi cael llond bol ar bawb yn llongyfarch ei hunain pob dau funud ac mae’n hen bryd i ni stopio’r hen lol ‘ma. Wedi’r cwbl, mae ‘na bethau pwysicach yn does: mae’r econoni’m capwt, mae Jeremy Hunt ar fin gwneud llanast llwyr o’r NHS a tydan ni dal ddim yn siwr iawn be mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.”

Collodd tim pêl-droed Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Wener ac mae hynny’n arwydd fod pethau yn siwr o normaleiddio’n fuan meddai’r hanesydd, John Davies.

“Chi’n gweld, mae Cymru wedi ei hadeiladu ar sylfaen o fethiannau anochel,” meddai John, wrth wenu, tra’n ceisio pysgota llwy de oedd wedi disgyn i mewn i botyn jam. “Owain Glyndŵr, Ron Davies, Jonsi – mae’r rhestr o fethiannau Cymreig yn ddiddiwedd.”

Ond gyda Cymru’n chwarae pel-droed yn erbyn Serbia nos Fawrth a thîm rygbi Cymru yn paratoi i wynebu Seland Newydd ac Awstralia cyn y Nadolig, does dim dwywaith y bydd Cymru yn cael ambell siom i ddod dros y llwyddiannau diweddar.

“Ni angen cael ein siomi er mwyn bod yn hapus ac mae llwyddiant, wrth gwrs, mor estron i ni ag ydi peint o Guinness i ddyn o’r Lleuad,” ychwanega John Davies. “Nawr, esgusodwch fi, rwy ar fin dechrau 50 Shades of Grey – rwy’ yn gobeithio ei fod e cystal a beth mae pobl yn ei ddweud.”

Advertisements

Un sylw ar “Dihidrwydd yng Nghymru wrth i’r haf o chwaraeon ddirwyn i ben

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s