Cynghorau’r gogledd yn bwriadu cael gimic fel Ynys Môn i godi nifer ymwelwyr

Delwedd

Mae Ynys Môn wedi gweld tŵf yn y nifer o ymwelwyr ers i Ddug a Duges Caergrawnt aka William Arthur Philip Louis a Catherine Elizabeth aka Wil a Cêt symud yno yn 2011 ac mae pobl yn heidio i’r ynys gan obeithio cael cip ar y cwpl hapus.

Ond mae cynghorau eraill yng ngogledd Cymru wedi sylweddoli erbyn hyn eu bod nhw hefyd angen gimic i ddenu ymwelwyr a gwella’r economi leol. Mewn cynhadledd twristiaeth yn Llandudno’r wythnos hon, daeth cynghorau’r  gogledd at ei gilydd er mwyn amlinellu’r cynlluniau.

Gwynedd
Mae Gwynedd yn canolbwyntio ar atomfa Trawsfynydd gan bwysleisio bod Richard Gere a Sean Connery wedi bod yno’n gweithio ar ffilm am y Brenin Arthur – First Knight. Bydd arddangosfa am y ffilm, sy’n cynnwys un o sannau budr Sean Connery a photel wag o Just For Men gafodd ei ddefnyddio i liwio gwallt Richard Gere, yn cael ei gosod yn ffreutur yr atomfa. Bydd cyfle hefyd i fynd am drip cwch ar y llyn i hela’r pysgodyn deircoes sydd wedi bod yn rhan o chwedloniaeth yr ardal ers 1999.

Powys
Mae Powys yn bwriadu troi Bron-Yr-Aur, y bwthyn lle wnaeth Robert Plant a Jimmy Page o Led Zeplin aros yn y 1970au, yn barc thema Led Zepplin. Bydd y parc yn cynwys reid Zepplin go iawn i fynd a’r ymwelwyr o ganol tref Machynlleth i’r parc ac uchafbwynt arall fydd siop yn gwerthu sgarffiau Kashmir.

Dinbych
Mae’r cynllun mwya eithafol wedi ei gynnig  yn Sir Ddinbych lle mae ymgynghoriad ar ddechrau i drafod newid enw un o adeiladau mwyaf eiconic Rhyl – ‘Rhyl Sun Centre’ – i ‘Step to the Sun Centre Rhyl’ mewn edmygedd a pharch at Lisa Scott-Lee, un o blant  y dref ac aelod o’r grwp pop, Steps.

Conwy
Yng Nghonwy, y cynllun yw adeiladu fersiwn mawr o’r tŷ lleia yng ngwledydd Prydain. Mae’n nhw’n gobeithio gorffen y gwaith ar y Tŷ Lleia Mwya ym Mhrydain erbyn 2015.

Wrecsam
Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi penderfynu mai’r peth olaf maen nhw eisiau yw rhagor ymwelwyr.

Fflint
Doedd dim cynrycholiad o Gyngor Sir Y Fflint yn y gynhadledd. Dywedodd llefarydd ar ran adran dwristiaeth y cyngor: “We saw the invite but didn’t see the point in going because were in England.”

Advertisements

Un sylw ar “Cynghorau’r gogledd yn bwriadu cael gimic fel Ynys Môn i godi nifer ymwelwyr

  1. Y Cneifiwr

    Dyw pethe fawr gwell yn y Sowth. Mae Carlo a Camilla wedi bod yn dychryn pobl rhag dod i Sir Gâr ers sbel.Tre anghyfannedd yw Llanymddyfri dyddie ‘ma.

    Ateb

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s