Y Cymry ymysg y tewa yn y byd

Roedd dathlu yng Nghymru dros y penwythos ar ôl sylwadau gan ddoctor bod y wlad yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau am or-dewdra.

Dywedodd Dr Nadim Haboubi, sydd yn rhedeg yr unig glinig gor-dewdra yng Nghymru: “Mae’r Cymry yn fawr. Na, a dweud y gwir mae nhw’n anferth.  Gwaeth na Lloegr yn bendant, hyd yn oed yn waeth na’r Alban. Ymysg y tewa yn y gorllewin yn fy marn i.”

Daeth y sylwadau yn dilyn Gemau Olympaidd yn Llundain ac yng nghanol y Gemau Paralympaidd ac mae cenedlaetholwyr yn dadlau bod hyn yn dangos bod Cymru yn gallu eistedd ar ei thîn gyda’r gorau yn y byd.

“Dwi’n gorfod bwyta lot fawr i gyrraedd  y pwysau yma,” meddai Joe Hunt sy’n pwyso 26 stôn a fu’n dathlu wrth fwyta cacen anferth.

“Mae’n newyddion grêt ein bod ni’n ail yn y byd ac mae o wedi rhoi Cymru ar y map ond mae’n rhaid i ni weithio ar hyn a gwneud yn siwr ein bod ni’n adeiladu arno fo at y dyfodol.”

Un o’r cynta i longyfarch Cymru ar y gamp o fod ymysg y tewa yn y byd oedd Ann Romney, gwraig ymgeisydd Arlywyddol y Gwerinaethwyr yn America, Mitt Romney.

“Roedd fy nhaid yn löwr o Nantyffyllon ac roedd o’n dew iawn. Fe ddaeth o i Amercia oherwydd bod dim digon o fwyd yn ardal ei fagwraeth i’w gadw’n hapus.  Dwi mor falch bod y traddodiad o dewdra yr un mor gryf yng Nghymru ag ydio yn America. Doedd y Kennedy’s methu dewud hyn am Iwerddon nag oedden?”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s