Rhaglen newydd S4C yn targedu anifeiliaid anwes

Delwedd

Wedi iddyn nhw weld gostyngiad yn nifer y ffigyrau gwylio dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhaglen newydd S4C yn mynd i dargedu anifeiliaid anwes mewn ymgais i droi’r llanw ar ddirywiad y sianel.

Bydd ‘Fi neu’r Ci’ yn cael ei ddarlledu ym mis Ionawr a syniad y rhaglen yw bod anifeiliad yn mynd am ddêt gyda’i gilydd er mawr fwynhad i anifeiliaid anwes fydd yn gwylio’r rhaglen o gyswrwch eu cartref.

Meddai llefarydd ar ran S4C: “Y rhaglen ddiwethaf i mi wylio ar y sianel oedd ‘Cyfnewid’ felly roedd hi’n amlwg bod angen i ni wneud rhywbeth radical.

“Ond roedd yr ateb yn syml wrth gwrs. Sawl bochdew neu bysgod aur sy’n byw mewn ystafelloedd gyda teledu ynddyn nhw ar hyd a lled y wlad? Ac mae gennych chi gŵn a chathod ar sawl aelwyd hefyd. Wrth dargedu anifeiliaid, rydyn ni’n byw mewn gobaith y bydd y ffigyrau yn codi i’r entrychion unwaith eto.”

Mae ‘Fi neu’r Ci’ yn cael ei gynhyrchu gan gwmni cynhrychu Telesgop sydd hefyd yn gyfrifol am glasuron fel ‘Bro’, ‘Bro: Papurau Bro’ a ‘Bro: Llwybr yr Arfordir’. Mae’r cwmni wedi rhyddau datganiad yn dweud mai dyma’r rhaglen gyntaf o’i math yn y byd.

“Dyma’r rhagen gyntaf o’i math yn y byd,” meddai’r datganiad gafodd ei ddosbarthu gan golomenod, jyst er mwyn gwneud pwynt.

“Ond dim ond dechrau yw hyn. Bydd cyfres nesa ‘Ffermio’ yn gweld Alun Elidir yn cael ei ddisodli gan ddafad Charollais o’r enw Dilys a chyn hir, rydyn ni’n gobeithio penodi ystlum fel cynhyrchydd ”Sgota gyda Julian Lewis Jones’ – y penodiad cyntaf o’i fath. Wedi’r cwbl, mae mwy o anifeiliad na phobl yn byw yng Nghymru ac ar hyn o bryd tydyn nhw ddim yn cael y chwarae teg maen nhw’n haeddu gan ddarlledwr cyhoeddus fel S4C.”

Advertisements

2 sylw ar “Rhaglen newydd S4C yn targedu anifeiliaid anwes

  1. Hysbysiad: Rhaglen newydd S4C yn targedu anifeiliaid anwes « Llygad Ddu « Diddorol neu ddoniol

  2. martha

    Wel, ar ol yr holl rygbia’r trotian ma acailddangos noson lawenneithiwr ac ailddangosiad dechrau canmoldechrau canmol heno gyda Alwyn Humphreys yn dweud ar y diwedd fod rhifyn wythnos nesaf ar Sul y cofio gall y rhaglen hon ddim ond bod yn well…………

    Ateb

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s