Ymgyrchydd Iaith wedi dychryn gyda’r nifer o garcharorion oedd yn siarad Cymraeg

Delwedd

Wedi iddo ddod allan o’r carchar heddiw mae’r ymgyrchydd iaith, Jamie Bevan, wedi datgan ei fod wedi dychryn gyda’r nifer o garcharorion oedd yn siarad Cymraeg.

Cafodd Mr Bevan ei garcharu am 17 diwrnod am wrthod talu dirwy a treuliodd yr holl amser yno yn siarad Saesneg.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl i bawb yn y carchar siarad Cymraeg,” meddai mewn araith ym Merthyr Tudful o flaen trigolion lleol, dryslyd. “Wedi’r cwbl, mae pawb yn gwybod mai Saeson sy’n torri’r gyfraith fel arfer, ond doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai neb yno’n siarad iaith y nefoedd. Mae’r peth yn warth,” ychwanega.

Yn ôl Mr Bevan, dim ond un o’i gyd-garcharorion yng ngharchar Caerdydd oedd yn medru’r Gymraeg, a doedd o ddim yn siarad yr iaith o flaen neb arall oherwydd nad oedd neb yn ei ddeall.

“Rydw i wedi anfon llythyr at y Comisiynydd Iaith yn cwyno am hyn ac rwy’n disgwyl ymchwiliad llawn,” dywedodd o flaen torf o dri hen ddyn oedd yn rhannu can o Special Brew a grwp o lanciau ifanc oedd wrthi’n sniffian Tipp-Ex.

“Byddai Nelson Mandela ddim yn cymryd hyn a dyw brwydr yr iaith ddim drosodd nes y bydd pob carcharor yng Nghymru yn cael gwersi Cymraeg dyddiol ac yn derbyn copi o Hanes Cymru gan John Davies am ddim.”

Ar ddiwedd ei araith, dywedodd Mr Bevan ei fod yn bwriadu dathlu ei ryddid drwy mynd i dafarn leol i yfed ei hochr hi, canu caneuon Dafydd Iwan ac ysgrifennu graffiti gwrth-Seisnig yn y tai bach.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s